Am

Dathliad trydanol o gerddoriaeth llawr gwlad fyw 

Ymunwch â ni yn Amffitheatr Abertawe (y tu allan i LC Abertawe) a dewch i ddathlu cerddoriaeth llawr gwlad fywiog Abertawe yn ystod deuddydd o berfformiadau byw gan rai o artistiaid mwyaf cyffrous yr ardal yn ystod gŵyl Amplitude.

Mae’r ŵyl am ddim hon, a gynhelir ar 22-23 Awst, yn gyfle perffaith i ddarganfod artistiaid lleol sy’n perfformio cymysgedd cyfoethog o genres, o roc annibynnol, jazz a cherddoriaeth boblogaidd i ganu gwerin, felly bydd rhywbeth i bawb ei fwynhau. 

Gallwch ddod â'ch bwyd eich hun ac un botel o ddŵr wedi'i selio fesul person i'r Amffitheatr. Ni chaniateir diodydd eraill, oni bai eu bod wedi'u prynu o'r bar ar y safle. Ni chaniateir cŵn. 

Bydd Amplitude, a gyflwynir gan Gyngor Abertawe, yn arddangos perfformwyr creadigol y ddinas ac yn rhoi’r cyfle i artistiaid lleol gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Cadwch lygad am y rhaglen lawn!

Dydd Sadwrn

1:30 – 1:45 Rhiannon O'Connor 

14:15 – 15:00 The Stray Pursuit

Band pedwar aelod roc indie amgen o Abertawe yw The Stray Pursuit. Maent yn adnabyddus am eu riffiau gitâr amlwg a'u hegni, ac mae eu sain wedi'i hysbrydoli gan fandiau fel Stereophonics, Catfish and The Bottlemen a Kasabian.

15:30 – 16:15 AKiMBO

Grŵp roc genre cymysg 5 aelod a ffurfiwyd yn Abertawe y mae eu cerddoriaeth yn dywyll ac yn oriog, AKiMBO a'u haelodau'n gwrthod cyfansoddi unrhyw beth calonogol.

16:45 – 17:30 Papa Jupe’s T.C.

Papa Jupe’s T.C. – cerddoriaeth ôl-pync wedi’i chyfuno â roc syrffio atgofus. Mae eu geiriau swrrealaidd yn dychanu gwrywdod, gwleidyddiaeth a phŵer.

Sefydlwyd y band 6 aelod yng Nghaerdydd gan y prif leisydd Harry Willicombe, y gitarydd Sam Butcher a'r chwaraewr gitâr fas Alex Miller. Mae drymio Ash Smith, gwaith Tom Emlyn ar y syntheseisydd a llais gorfoleddus Gemeni Anderson o Nashville wedi sicrhau bod Papa Jupe’s T.C. yn sain unigryw ym myd cerddoriaeth Caerdydd. 

18:00 – 18:45 Zac and the New Men

Mae Zac and the New Men yn fand roc genres cymysg o Gymru sy'n dal sylw gyda'u hegni trydanol, eu gallu cerddorol a'u sain bwerus. Mae'r band a ddechreuodd fel grŵp o ffrindiau gorau a oedd yn ceisio osgoi gwneud gwaith cartref wedi datblygu i fod yn un o fandiau newydd mwyaf cyffrous y DU - sydd wedi mynd o berfformio mewn tafarndai i fod ar lwyfan Neuadd Frenhinol Albert. 

Mae eu sain sy'n cyfuno cerddoriaeth roc fachog, egnïol a roc amgen modern yn cael ei hysbrydoli gan Nothing But Thieves, Dead Poet Society, Muse a Royal Blood - ac eto mae'n unigryw. Mae eu sioeau byw yn fwy na pherfformiadau; maent yn wahoddiad i fod yn rhan o rywbeth go iawn. 

19:15 – 20:00 M0Li

Mae M0Li, perfformwraig frwd a ddaw'n wreiddiol o Wauncaegurwen, sy'n cyfuno cryn ddawn gerddorol, creadigrwydd a choreograffi, wedi syfrdanu llwyfannau ledled y DU gan gynnwys  Band on the Wall, The Blues Kitchen, Green Island Festival ac Arena Abertawe gan ennill brwydr y bandiau hefyd yn Co-Op live. 
 
Wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth Motown, gospel, soul a ffync, mae M0Li wedi bod yn datblygu sain unigryw, ddifyr ac egnïol. Ar ôl rhyddhau ei sengl gyntaf a'i hanthem haf, ‘Suga Mama’ yn gynharach yr haf hwn, mae M0li wedi bod yn dal sylw pobl ar draws byd cerddoriaeth y DU. Mae'n bleser gennym groesawu M0Li a'i band fel prif berfformwyr nos Sadwrn yn Amplitude.

Dydd Sul

13:00 - 13:45 Buttonsville

Sefydlwyd Buttonsville yn 2024 ac mae'r grŵp yn hen gyfarwydd â byd cerddoriaeth fyw Abertawe. Am dros ddau ddegawd, mae'r grŵp tynn hwn wedi perfformio gyda'r un aelodau, gan lenwi pob llwyfan ag egni diamheuol a dawn gerddorol. Mae gan y band lu o gefnogwyr yn Abertawe ac rydym yn falch iawn o'u cyflwyno i chi.

14:15 – 15:00 John Dignam Trio (JD3)

Mae Amplitude yn croesawu dychweliad hir-ddisgwyliedig John Dignam Trio (JD3), chwaraewr gitâr hynod fedrus a chlodwiw iawn, sydd wedi rhannu llwyfannau â cherddorion fel Tommy Emmanuel, Frank Vignola a Clive Carroll. Bydd y drymiwr amryddawn a chynhyrchiol Huw Rees a'r chwaraewr gitâr fas Daniel KilBride yn ymuno â John.

15:30 - 15.45 - The Modern Rogues

Mae band The Modern Rogues yn cynnwys Josh, Scott, Rhys a Sam o Abertawe, ac maent yn perfformio amrywiaeth o genres fel canu gwlad, roc ac americana. Maen nhw'n ysgrifennu eu cerddoriaeth roc gwlad eu hunain ac maent yn dwlu ar berfformio a chael pobl i symud fel rhan o'r broses!

16:45 – 17:30 Virgil and the Accelerators

Mae Virgil and the Accelerators, triawd blues-roc pwerus, yn ôl wedi iddynt ailffurfio ar gyfer eu taith eleni, "The Phoenix Returns" . Cânt eu harwain gan eu prif leisydd arobryn Virgil Van der Merwe, ac mae'r aelodau newydd yn cynnwys y chwaraewr gitâr fas Maddy Kiley (Maddy K) a'r drymiwr Jamie Williams. Yn y cyfnod newydd hwn mae'r band yn dychwelyd i'w sain a'u harddull wreiddiol - cerddoriaeth roc trwm anghaboledig, sy'n boblogaidd ym myd cerddoriaeth fyw y DU.

18:00 – 18:45 Waterpistol

Band roc seicedelig chwe aelod yw Waterpistol sy'n cyfuno seicedelia gitarau'r 1960au, roc amgen y 1990au a roc a rôl clasurol, a'r aelodau yw Harry Watton, Rhea Padua, Aaron Tormey, Carwyn Whiteman, Emma Way, a Tommy Evans / Efan Watkins.

19:15 – 20:00 The Pepperseeds

Band soul a ffync cyffrous o Gaerdydd yw The Pepperseeds, sy'n adnabyddus am eu perfformiadau byw trydanol o a chymysgedd o ail-fersiynau clasurol a chyfansoddiadau gwreiddiol. Y prif leisydd carismatig yw Dionne Bennett, cantores Jamaicaidd-Brydeinig, ac mae'r band yn cyflwyno sain bwerus a theimladwy sy'n cyfareddu cynulleidfaoedd. 

Fe'u canmolir am eu brwdfrydedd heintus a'u gallu cerddorol. Mae The Pepperseeds yn parhau i fod yn act eithriadol ym myd cerddoriaeth soul a ffync y DU.