Am

Byddwch yn barod i hel atgofion am bêl-droed a chael eich difyrru wrth i Heroes & Legends gyflwyno noson yng nghwmni Lee Trundle a Jefferson Montero.  

Ymunwch â dau o enwogion Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Lee Trundle a Jefferson Montero, wrth iddynt rannu straeon a sylwadau sy'n seiliedig ar eu gyrfaoedd. O gampau chwedlonol Trundle o flaen gôl i ddoniau disglair Montero ar yr asgell, cewch ail-fyw'r uchafbwyntiau a'u gwnaeth yn ffefrynnau ymhlith y cefnogwyr.  

Achubwch ar y cyfle unigryw hwn i gwrdd â dau o enwogion Dinas Abertawe ac ail-fyw cyffro eu hamser yn Stadiwm Liberty. Mae nifer cyfyngedig o docynnau, felly cadwch eich lle nawr am noson fythgofiadwy o bêl-droed a digrifwch.  

Bydd y digwyddiad hwn, a gyflwynir gan Heroes & Legends, yn siŵr o fod yn brofiad bythgofiadwy i gefnogwyr Dinas Abertawe ac unrhyw un arall sy'n frwd dros bêl-droed. Archebwch eich tocynnau nawr! 

Dechreuwch eich noson mewn ffordd wych am £20 ychwanegol gyda phrofiad Cwrdd a Chyfarch sy'n cynnwys cyfle am lun! Gellir ychwanegu hyn at eich archeb ar ôl i chi ddewis eich tocyn.