Am
Daeth Paul Young i enwogrwydd 40 mlynedd yn ôl pan aeth ei gân No Parlez i frig y siartiau, gan arwain at fwy o ffefrynnau eiconig fel Wherever I Lay My Hat (That's My Home). Cafodd ragor o lwyddiant gyda'i albwm rhif un, The Secret of Association a'r gân a fu'n llwyddiant mawr ar draws y byd, Everytime You Go Away, yn ogystal â'i ymddangosiad yn nigwyddiad Live Aid a mwy. Llwyddodd Paul i gynnal y llwyddiant hwnnw - wrth gael hwyl yn ei fand 'tex-mex', Los Pacaminos. Nawr, mae'n edrych yn ôl yn ystod y sioeau personol hyn, sy'n cyfuno sgwrs a fersiynau acwstig o ganeuon. Bydd Paul yn cwrdd â'i gefnogwyr, yn canu caneuon ac yn adrodd straeon am ei yrfa anhygoel. Mae'n amser ymhyfrydu yn y ffefrynnau clasurol a dysgu am y straeon y tu ôl iddynt yn y sioe bersonol hon.