Am

Manylion y digwyddiad Dyddiad: 12 Mehefin 2026, 7.00pm – 25 Gorffennaf, 2026, 5.00pm

Sgyrsiau am yr Oriel a chan Artistiaid ANDRE STITT – ESTATELESS

12/06/26 – 25/07/26

Rhagarddangosfa: 12 Mehefin, 7pm

Arddangosfa'n agor o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn, 11am – 5pm

Mae iwtopiâu cosmig, ymyriad rhithiol, rhyfel tragwyddol a throsgynoldeb seciwlar yn darlunio ffiniau cysyniadol gwaith Andre Stitt.

Mae'r gweithiau a ddewiswyd ar gyfer yr arddangosfa hon yn archwilio preswylio ar y cyd a chwalfa gymunedol, sy'n aml yn ymwneud â thrawma a gwrthdaro, gyda chelf yn cael ei chynnig fel llwybr achubol. Defnyddir y tair oriel a'r caffi yn lle celf newydd Elysium i gyfuno gwahanol gyfnodau amser a swyddogaethau. Maent yn gweithredu fel cyfrwng ar gyfer adrodd straeon, gan adlewyrchu sut mae profiadau personol yn eu hanfod yn rhai gwleidyddol. Wrth i chi gerdded drwy'r mannau hyn yn yr oriel, mae pob lle'n adrodd rhan newydd o'r stori. Caiff adeileddau'r byd go-iawn eu cyfleu mewn paentiadau haniaethol, gan beri i siapiau cyfarwydd deimlo fel pe baent yn perthyn i ddimensiwn arall.

Mae ystafelloedd modern o ganol y ganrif yn ymddangos fel adfeilion yn dilyn ymosodiad gan ddronau; mae'r henebion niferus a welir yn cyfeirio at hiraeth am gyfnodau mewn hanes a ddiffiniwyd gan reolaeth a gormes; mae lleoliadau wedi'u cuddio mewn systemau GPS; ac mae pandemig yn gweddnewid tramgwyddau dynol. Ceir cyfeiriadau at wrthryfeloedd y gorffennol, amgylcheddau gwenwynig, newidiadau genetig a dod i gysylltiad â chemegau. Maent yn darlunio bywyd yn y dyfodol yn dilyn newid mawr, gyda motél cariad yn gefndir iddo.

Mae Stitt yn defnyddio cyfeiriadau at amgylchoedd adeiledig fel stadau tai a chanolfannau milwrol, a meddiannu a phoblogi tiriogaethau dadleuol i dynnu sylw at natur fregus hanes dynol. Mae'r arddangosfa hon felly'n archwilio'r cysyniad o iwtopiâu diffygiol: gyda phensaernïaeth yn offeryn i orfodi systemau cred, gan greu amgylchedd lle mae dyluniad lleoedd yn ei hanfod yn arwain at wrthdaro bythol a brwydrau ideolegol anochel.

Yn fwy eang, mae ei waith yn archwilio nodweddion ffisegol yr amgylchedd dynol, sy'n cael ei gyfleu mewn ffordd haniaethol drwy baentiadau i greu bydysawd cyfochrog o atgofion a ffurfiau wedi'u hail-ddychmygu. Y nod yw creu gwaith celf sy’n gyfarwydd ac eto'n edrych fel pe bai’n perthyn i fyd ac amser arall, gan ffurfio lle sydd o bosib yn herio’r sefyllfa bresennol lle mae cyfnodau hanesyddol yn ymdoddi i'w gilydd.

Defnyddir paent i gyfleu'r profiad dynol mewn ffordd artiffisial. Mae'n adlewyrchu amwyseddau hanesyddol amser a lle wrth gyflwyno paentiadau cyfoes o ran genre fel cyfrwng trawsnewidiol a chanddo botensial gwaredol. Yn hytrach na glynu wrth un amser neu le, mae gwaith celf Stitt yn torri'r rheolau. Mae'n defnyddio paentio modern i herio'r gwyliwr a chynnig profiad newydd, trawsnewidiol iddo.