Am

Yn dilyn ei sioeau 2024/25 a werthodd bob tocyn ar daith genedlaethol, mae Andy Zaltzman – cyflwynydd y  podlediad The Bugle The News Quiz BBC Radio 4, ystadegydd ar Test Match Special, a phencampwr cyfres 18 Taskmaster - yn estyn ei daith boblogaidd i 2026.

Wedi'i diweddaru'n llawn o ganlyniad i wrthodiad ystyfnig y DU a'r byd i roi trefn ar eu pethau, mae sioe Andy yn asesu cyflwr y Ddaear, ei mileniwm presennol sydd dan bwysau, a'i rhywogaeth fwyaf enwog a dadleuol - dynol-ryw.

Gyda gwleidyddion ledled y byd yn ceisio rhagori ar ei gilydd wrth ysgeintio coctêl o ddi-glemdra, dryswch ac anonestrwydd anniwall ar eu pobl, mae Andy, yr unig ddigrifwr gwleidyddol ac ystadegydd criced proffesiynol yn y byd, yn harneisio dewiniaeth AI yr 21ain ganrif a'i gynulleidfa fyw. Rhyngddynt, byddant yn bathu atebion lled-gredadwy i gwestiynau bythol astrus megis Beth? Pwy? Pryd? Lle? ac yn anad dim, Pam?

RHYBUDD: Gall gynnwys pengwin sy'n siarad.