Am

Ymwelwch â'r gysegrfa yn ystafell flaen Anna – rhoddir ffigurau benywaidd hybrid, wedi'u creu o ffotogopïau, paent, a darluniau ar gardbord, at ei gilydd fel defod yn ei man byw. Nod y gwaith hwn yw sbarduno'r hud a'r hynodrwydd sy'n bodoli, drwy ymyrraeth artistig yn amgylchedd trefol Abertawe, lle mae'n byw.

Mae Shrine yn waith celf gan Anna Barratt a ddechreuodd yn ei hystafell flaen rhwng 2023 a 2025.

“Ychydig flynyddoedd yn ôl, dechreuais feithrin obsesiwn ynghylch cysegrfa neu safle rhywbeth hudol o bosib yn Jones Terrace/Mount Pleasant. Roeddwn yn meddwl pa mor gyfriniol, hynod a hudol yw'r rhan hon o Abertawe – yn y canol, o dan olwg y blociau tŵr ffallig parhaol. Ac roeddwn am greu rhywbeth yr un mor hynod, er mwyn tynnu sylw at hud yr ardal hon. Felly, creais oriel tymor byr y tu mewn i’m cartref.”

 Mae gwaith celf Anna Barratt gyda phaent, cerfluniau a gosodweithiau sy'n seiliedig ar y safle yn canolbwyntio ar gyrff diamddiffyn sy'n cael eu trawsnewid. Mae ei gwaith yn dangos ffurfiau newidiol, ansefydlog – cyrff sy'n newid yn barhaus.

Mae wedi bod yn arddangos ledled Cymru ers 25 mlynedd, gan gynnwys lleoliadau fel g39, Chapter, Oriel Gelf Glynn Vivian ac Arcade Campfa. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ariannu sawl prosiect ganddi, gan gynnwys Shrine (2023–2025). Bu'n cydweithio â'r band Hen Ogledd ar wisgoedd, baneri a gwaith celf ar gyfer albwm. Mae'n addysgwr celf profiadol, gan weithio gydag Oriel Gelf Glynn Vivian, Criw Celf, ac Engage Cymru.

AM DDIM. Yn addas i oedolion a phlant dros 10 oed yn ôl disgresiwn y rhiant neu'r gwarcheidwad.

Ni chaniateir cŵn.

*Sylwer eich bod yn ymweld â chartref rhywun. Bydd Anna yn eich croesawu mewn grwpiau o hyd at oddeutu pedwar person ar y tro. Felly, efallai y bydd angen i chi aros ychydig os bydd rhywun wedi cyrraedd o'ch blaen.

Rhan o Benwythnos Abertawe Greadigol 2025