Am
Mae Fiona Bruce a thîm Antiques Roadshow yn dod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros yr Haf i ffilmio'r 48fed gyfres o un o raglenni mwyaf poblogaidd y BBC!
Mae'r tîm yn chwilio am gymysgedd eang o hen bethau, trysorau teuluol a thrysorau vintage. Bydd pob sioe yn cynnwys arbenigwyr ym meysydd gemwaith, arian, cerameg a gwydr, lluniau, llyfrau prin, clociau ac oriorau, a milwriaeth, yn ogystal â thîm o arbenigwyr sydd â gwybodaeth am yr holl bethau y gellir eu casglu – o deganau retro i eitemauyn ymwneud a ffilm a cherddoriaeth, o hynafiaethau hynafol i emwaith, o ddodrefn canol ganrif i ffasiwn vintage.
Rhaid cael tocyn i fynychu’r digwyddiad ffilmio yma ac mae ceisiadau am docynnau bellach ar agor gyda lleoedd cyfyngedig. Gall gwylwyr hefyd gyflwyno eitemau i'r tîm i'w hystyried. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.bbc.co.uk/antiquesroadshow