Am
Ymunwch â ni i brofi bywyd fel plentyn ar y ffrynt cartref yn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
I ddathlu 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd a chydnabod bywydau plant yn ystod y rhyfel, bydd gennym amrywiaeth o weithgareddau yn yr amgueddfa. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys llwybr newydd gan ‘Kids in Museums’, gweithdy am ddim, gweithgareddau newydd yn yr orielau, a phecyn am ddim i’w fwynhau gartref. Byddwn hefyd yn agor ein hystafell gemau ar gyfer chwarae ac ymlacio.