Am
Mwynhewch Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe
Nos Fercher 5 Tachwedd 2025, 5pm - 8pm
Byddwch yn barod am gyffro! Bydd Maes San Helen yn croesawu archarwyr ar gyfer Arddangosfa Tân Gwyllt Flynyddol Cyngor Abertawe – ac fe'ch gwahoddir i ymuno yn yr hwyl!
Mae'r tocynnau'n gwerthu'n gyflym, felly prynwch eich rhai chi nawr er mwyn cael noson o hwyl!
Bydd y gatiau'n agor am 5pm am noson sy'n llawn adloniant cyn y sioe, gan gynnwys:
- Marvel Moves - perfformiad dawns gan Deadpool a Wolverine
- Cymeriadau sy'n cerdded o gwmpas a llawer mwy i'w gadarnhau'n fuan!
Gallwch gwrdd â'ch hoff arwyr:
- Spider-Man
- Batman a'r Batmobile
- Wonder Woman
- Deadpool a Wolverine
- Mr a Mrs Incredible a llawer mwy!
Gwyliwch yr arddangosfa tân gwyllt arbennig am 7.30pm.
Lleoliad: Maes San Helen, Abertawe
Dyddiad: 5 Tachwedd
Bwytewch gyda ni!
Bydd bwyd, diodydd a byrbrydau ar gael i'w prynu ym Maes San Helen o werthwyr bwyd ar y safle.
Tocynnau
Math o Docyn |
Pris ymlaen llaw |
Pris ar y diwrnod |
Oedolion |
£5 |
£6 |
Plant/Consesiwn |
£4 |
£5 |
Pasbort i Hamdden |
£3 |
£4 |
Teulu o 4 (yn cynnwys 2 docyn pris llawn a 2 gonsesiwn) |
£12 |
£17 |
Teulu o 5 (yn cynnwys 2 docyn pris llawn a 3 gonsesiwn) |
£14 |
£19 |
Bydd prisiau i deuluoedd o 4 (2 oedolyn a 2 blentyn) a theuluoedd o 5 (2 oedolyn a 3 phlentyn) yn cael eu gostwng yn awtomatig i'r pris i deuluoedd wrth y ddesg dalu.
**Bydd angen dangos cardiau Pasbort i Hamdden ar y noson
Bydd tocynnau ar-lein ar gael tan hanner nos ar nos Fawrth 4 Tachwedd - bydd yr opsiwn i dalu wrth y giât ar gael ar y diwrnod
Archebwch nawr a byddwch yn rhan o noson sy'n llawn arwyr wrth i ni oleuo'r awyr!