Am

Mae arddangosfa newydd yn yr amgueddfa yn ein hatgoffa o’r dinistr yn dilyn Blitz Tair Noson Abertawe. Er bod Abertawe wedi profi dros 40 o gyrchoedd awyr rhwng 1940 a 1943, y tair noson ym mis Chwefror 1941 oedd wedi achosi’r niwed mwyaf i’r dref. Mae’r arddangosfa’n cynnwys clip ffilm gyda hanesion uniongyrchol o fywyd ar benrhyn Gŵyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.