Am

 Mae Art of Andalucia yn ddathliad cyfareddol o ddawn eithriadol Daniel Martinez ym maes fflamenco. Bydd y gyngerdd unigryw hon yn cynnig cyfle i ymgolli'n llwyr yn hanfod fflamenco, gan gynnwys detholiad wedi'i guradu'n ofalus o waith mwyaf clodfawr Daniel, megis ei gynhyrchiad arobryn, Art of Believing, a'i gampwaith diweddaraf, Andalucia. Yn ogystal, bydd y gyngerdd yn rhoi cipolwg arbennig ar ei drydydd albwm hirddisgwyliedig, gan alluogi'r gynulleidfa i wrando ar ei gerddoriaeth newydd, a hynny am y tro cyntaf.  

Mae Art of Andalucia yn fwy na chyngerdd gerddorol; dyma deyrnged i draddodiad cyfoethog dawnsio fflamenco. Mae Daniel Martinez yn ymdrechu i daro'r cydbwysedd cywir rhwng cerddoriaeth a dawnsio, gan roi prif sylw'r sioe ar yr ail elfen. Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, bydd y gyngerdd yn amlygu dau ddawnsiwr eithriadol y bydd eu hathrylith a'u hangerdd yn mynd â'r gynulleidfa ar daith synhwyraidd i galon Andalucia. Bydd Daniel yn cyfansoddi ac yn creu cerddoriaeth wreiddiol yn benodol i'r ddau ddawnsiwr, a bydd y coreograffi'n unigryw i'r cynhyrchiad hwn a'r daith hon. Drwy ymdrech drylwyr i sicrhau cytgord rhwng y gerddoriaeth a'r symudiadau, ceir profiad llyfn a dwys a fydd yn dathlu'r cysylltiad dwfn rhwng cerddoriaeth a dawnsio fflamenco.