Am

Mae’n bleser gan brif arddangosfa eilflwydd a gwobr gelf gyfoes ryngwladol y Deyrnas Unedig gyhoeddi manylion ei hunfed arddangosfa ar ddeg, Artes Mundi 11, gyda’r partner cyflwyno Sefydliad Bagri (AM11). Dangosir gwaith chwe artist gweledol cyfoes rhyngwladol yn yr arddangosfa.

Cyhoeddir enillydd Gwobr fawr £40,000 Artes Mundi – gwobr fwyaf y Deyrnas Unedig am gelf gyfoes – yn ystod yr arddangosfa yn Ionawr 2026. Yn dilyn llwyddiant AM10, am yr ail waith caiff AM11 ei gyflwyno’n genedlaethol mewn pum lleoliad ledled Cymru, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am y tro cyntaf.

Bydd gwaith gan bob artist i’w weld mewn cyflwyniad grŵp yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a bydd hynny’n ganolbwynt canolog fydd yn cynnwys cynyrchiadau newydd uchelgeisiol a benthyciadau pwysig fydd yn cynrychioli craidd sylfaenol ymarfer pob artist. Bydd y sioe grŵp yn caniatáu datgelu deialog thematig rhwng pob artist, yn seiliedig ar hanesion a straeon personol sy’n archwilio cwestiynau am golled, cof, ac ymfudo, a’r trawma a’r gost amgylcheddol sy’n deillio. Ategir hyn gan arddangosfeydd unigol cynhwysfawr ledled y wlad.

Dyma leoliadau cyflwyno gweithiau unigol AM11: Anawana Haloba Sawangwongse Yawnghwe yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; Sancintya Mohini Simpson yn Chapter, Caerdydd; Kameelah Janan Rasheed yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; a Jumana Emil Abboud ac Antonio Paucar ym Mostyn, Llandudno.

Fel llwyfan hanfodol i gyfnewid diwylliannol rhwng cymunedau artistig y Deyrnas Unedig a’r byd, a’i ffocws ar archwilio’r ‘cyflwr dynol’, mae Artes Mundi’n casglu arddangosfa sylweddol at ei gilydd bob dwy flynedd o gelf gyfoes gan artistiaid rhyngwladol dylanwadol. Mae AM11 yn parhau â’i draddodiad o gyflwyno gwaith arbennig yng Nghymru sy’n ymdrin â chwestiynau mawr ein hoes.