Am
Torri, Gludo, Creu: Diwrnod Collaj Teulu 18.02.26
Workshop times:
10:30 – 12:30
13:30 – 15:30
Ymunwch â’n gweithdy teulu creadigol llawn hwyl, wedi’i ysbrydoli gan waith Kameelah Janan Rasheed, fel rhan o arddangosfa Artes Mundi 11. Gyda’n gilydd, bydd teuluoedd yn torri, haenu ac arbrofi gyda deunyddiau i greu collage graddfa fawr, gan archwilio sut gall delweddau a syniadau ymledu ar draws waliau a gofodau y Glynn Vivian. Mae man tawel ar gael ym mhob sesiwn i’r rheini ag anghenion synhwyraidd, y mae angen dosbarth llai o faint ac amgylchedd dysgu tawelach arnynt. Cynhelir y gweithdai tawel yn ystafell 2 – bore’n unig.
£3.00 y plentyn yng nghwmni un oedolyn
£2.00 ar gyfer unrhyw oedolyn ychwanegol sy’n dod i’r gweithdy hwn
Darperir yr holl ddeunydd. Mae’n rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein