Am

Arweiniad ar gerfio llwyau i ddechreuwyr gyda Lee John Phillips

Bydd Lee yn dechrau’r gweithdy drwy eich cyflwyno i'r offer sylfaenol sydd eu hangen arnoch i greu llwy goginio ymarferol a phrydferth iawn. Byddwch yn trafod dewis a chaffael pren, gan ganolbwyntio ar y deunyddiau gorau ar gyfer cerfio, yn ogystal â phryderon iechyd a diogelwch i sicrhau eich bod yn gallu cerfio’n hyderus.

Bydd Lee wedyn yn trafod y broses o ddylunio llwyau a chyfarpar cegin, ac yn tynnu sylw at gyfeiriad y graen wrth ystyried eich gwaith eich hun. Drwy ddefnyddio technegau bwyellu, byddwch yn trawsnewid darn o goeden yn llwy sy’n barod i'w cherfio.