Am
Dewch i ddathlu 70 mlynedd o ganeuon eiconig
Barry Steele and Friends - Profiad cyngerdd unigryw o holl ganeuon poblogaidd Roy Orbison
Os ydych am weld y peth go iawn, dewch i weld Barry Steele.
Yn syth o Theatr Adelphi yn y West End, ac yn dathlu 21 mlynedd yn y busnes, mae Barry Steele's Roy Orbison Story yn mynd â chi ar daith gerddorol wych i ddathlu arwr "The Rock and Roll Hall of Fame" a'r "Big O" sydd wedi ennill chwe gwobr Grammy, ynghyd â'i ffrindiau eiconig yn y byd cerddoriaeth.
Gyda chefnogaeth band gwych â phum aelod, bydd y sioe hon yn eich cludo o oes rocabili Sun Records i'r Travelling Wilburys, gan gyflwyno'r holl ganeuon clasurol gan gynnwys "Pretty Woman," "Crying," "I Drove All Night," "You Got It," "Only the Lonely," "In Dreams," "California Blue," "Rattled," a "Handle with Care," a llawer mwy.
Peidiwch â cholli un o nosweithiau mwyaf y flwyddyn wrth i'r cast dawnus hwn ail-greu hud, egni ac ansawdd cerddoriaeth Roy Orbison. Meddai The Stage, "Perfformiad heb ei ail."
Dewch i brofi'r caneuon eiconig fel rhan o noson i'w chofio.