Am
Bydd y gweithdy hwn yn eich arwain drwy'r broses o greu basged ffrâm gadarn â dolen.
Mae basgedi ffrâm yn ymarferol a gellir eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau. Mae basgedi ffrâm ymysg y mathau hynaf o fasgedi wedi eu gwehyddu a gellir dod o hyd iddynt ar draws y byd. Yng Nghymru, maent yn arbennig o berthnasol oherwydd roedd lluniau o gasglwyr cocos gyda'u basgedi yn boblogaidd iawn yn ystod y 19eg ganrif.
Yn ystod y cyflwyniad cryno hwn, byddwch yn dysgu egwyddorion creu basged ffrâm gan ddefnyddio cylchau helyg, siapio'r fasged ac archwilio technegau gwahanol ar gyfer gwehyddu. Erbyn diwedd y gweithdy, bydd gennych wybodaeth dda am sgiliau sylfaenol y grefft hanesyddol hon.
Darperir yr holl ddeunydd a chyfarpar. Does dim angen profiad blaenorol.
Sylwer: mae angen medrusrwydd corfforol i wehyddu basgedi a gall roi pwysau ar y dwylo.
Am ddim gyda thocyn.
Gweithdy i oedolion 16 oed ac yn hŷn.
Artist a gwneuthurwr basgedi abswrdaidd yw Lewis Prosser. Mae ei arfer yn archwilio'r croestoriad rhwng crefft a diwylliant. Drwy addysgu, mae Lewis yn bwriadu ailgysylltu pobl â'r tir, trosglwyddo sgiliau traddodiadol ac annog dehongliadau newydd ar gyfer yr oes fodern.