Am

DEIALOG CRAFFTER CYFAREDD

Ludovic Morlot - Arweinydd

Ben Baker - Ffidl

Tim Ridout -  Fiola

Stravinsky Jeu des cartes (23')

Britten Concerto Dwbl i'r Ffidil a'r Fiola (20')

Egwyl

Ravel Mother Goose 

Dan gyfarwyddyd Ludovic Morlot, mae'r rhaglen hon yn dwyn ynghyd dri chyfansoddwr a ail-luniodd iaith gerddorol gyda dychymyg a gwreiddioldeb. Bale trawiadol Stravinsky, Jeu des cartes, fydd yn agor y cyngerdd gyda gwychder rhythmig a ffraeth, gan wau naratif slei ynghylch y Jocer twyllodrus gan ddefnyddio cerddoriaeth hynod ddyfeisgar.

Wrth galon y noson mae gwaith brwd Britten, y Concerto Dwbl i'r Ffidil a'r Fiola, a ysgrifennwyd ganddo pan oedd yn dal yn fyfyriwr yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Mae'r gwaith, sy'n cael ei berfformio gan Ben Baker a Tim Ridout, yn datgelu llais digamsyniol Britten, o'r agoriad trawiadol tebyg i utgorn i'r ddeialog daer rhwng yr unawdwyr.

Ar ôl yr egwyl, mae Cyfres y Fam Ŵydd gan Ravel yn cyflwyno byd o straeon tylwyth teg mewn lliw cerddorfaol llachar. Mae'r gwaith ysgafn, dychmygus a hynod atgofus yn ddosbarth meistr mewn adrodd straeon cerddorol ac yn ddiweddglo hudolus i'r rhaglen.