Am
Mozart Symphony Symffoni Rhif 40
Brahms Ein deutsches Requiem
Thomas Zehetmair arweinydd
Elizabeth Watts soprano
Andrew Foster-Williams bariton-bas
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
DIGAMSYNIOL | DYRCHAFOL | SYFRDANOL
Gan ddod â phŵer opera i'r llwyfan gyngerdd, mae symffoni olaf-ond-un Mozart yn ddosbarth meistr angerddol mewn tensiwn a rhyddhad. Mae'r symudiad agoriadol tywyll dwys yn ildio i Andante ysgafnach mwy telynegol, ac mae digonedd o olau a chysgod wrth i'r Minuet cryno arwain at Drio lliwgar cyn i'r symudiad olaf iasol o gythryblus ddirwyn y campwaith hwn i ben.
Mewn gwaith tyner a phersonol iawn, mae Requiem telynegol Brahms yn sefyll fel un o weithiau corawl gorau'r byd. Wedi'i ysgrifennu ar ôl marwolaeth ei fam, gan nodi trobwynt yn ei yrfa, does dim litwrgi'n perthyn i'r Requiem hwn er mor gysegredig yw'r naws. Yn hynny o beth mae'n sefyll mewn cyferbyniad clir â gweithiau requiem adnabyddus eraill sy'n seiliedig ar yr Offeren Ladin, fel rhai Verdi neu Mozart. Mae tawelwch a bodlondeb pwerus y gwaith yn ennyn gobaith a defosiwn sy'n siarad ar lefel wirioneddol ddynol, gan daro deuddeg gyda chynulleidfaoedd heddiw lawn gymaint â phan gafodd ei ysgrifennu.