Am
BSL Interpretation
Adrian Partington arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Cor Plant Unedig
LLAWEN | CALONOGOL | SIRIOL
Carolau Nadolig mewn siwmperi clyd, plant yn canu'n llawen, darlleniadau gan eich hoff gyflwynwyr BBC Cymru Wales ac offerynnau taro a phres godidog. Beth arall allai fod ei angen arnoch i fynd i ysbryd y Nadolig?
Ymunwch â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gyda'u cyfarwyddwr artistig Adrian Partington, ynghyd â chôr mawr o blant o ysgolion ledled Cymru sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer y dathliad Nadolig blynyddol disglair a mawreddog hwn. Gwledd berffaith i'r teulu i gyd ar brynhawn dydd Sul.