Am

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Adrian Partington arweinyd

 Cor Plant Unedig

TYMHOROL | TWYMGALON | LLAWEN

Beth gewch chi well na charolau Nadolig mewn siwmperi clyd, plant yn canu'n llawen, a'r cyfle i gydganu'ch hoff ganeuon Nadoligaidd? Dim byd, siŵr iawn! Ychwanegwch ddarlleniadau gan eich hoff gyflwynwyr BBC Wales, a chyfeiliant gwych gan adrannau pres a tharo Cerddorfa Gymreig y BBC a dyna ichi'r arlwy Nadolig perffaith ar brynhawn Sul i'r teulu cyfan.

Ymunwch â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gyda'u cyfarwyddwr artistig Adrian Partington, ynghyd â Chôr Plant unedig o ysgolion ledled Cymru yn ein parti Nadolig serennog blynyddol.