Am
Richard Balcombe arweinydd
Katie Birtill & Graham Bickley unawdwyr
DISGLAIR | NADOLIGAIDD | HWYLIOG
Bydd y Gwyliau'n parhau gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC eleni mewn cracer o gyngerdd gyda'ch hoff ganeuon Nadolig i gyd - o White Christmas, Let It Snow, Sleigh Ride ac It's Beginning to Look a Lot Like Christmas, i Santa Baby, When a Child is Born ac All I Want for Christmas.
Gyda threfniadau symffonig byrlymus gan y cyfarwyddwr cerdd a'r arweinydd Richard Balcombe, a pherfformiadau gan y sêr canu Katie Birtill a Graham Bickley, mae'r cyngerdd hwn yn siŵr o gynnau ysbryd y Nadolig.