Am

Brahms Concerto i'r Ffidil

Mahler Symphony Symffoni Rhif 1 'Titan'

Ryan Bancroft  arweinydd

Johan Dalene  ffidil

SONIARUS | PRYDFERTH | HUDOLUS

Wedi'i ysbrydoli gan haul yr Eidal a'r alawon dawns hwyliog yr arferai eu chwarae yn ei ieuenctid gyda'i gyfaill o Hwngari ar y ffidil, mae Concerto gogoneddus Brahms i'r Ffidil fel petai'n crynhoi enaid yr offeryn. O'i alawon esgynnol, breuddwydiol a mawreddog i fwrlwm hwyliog y diweddglo, mae'n gosod llwyfan berffaith i unrhyw feiolinydd arddangos ei feistrolaeth, ac rydym yn falch iawn o groesawu doniau Johan Dalene yn ôl fel unawdydd.

 

Natur oedd yr ysbrydoliaeth hefyd i Symffoni Gyntaf Mahler, sef harddwch a llên gwerin yr Alpau a choedwigoedd Awstria y tro hwn. Ceir naws dawns fywiog a blas y pridd yn agoriad y symffoni feistrolgar hon, a chlywn nodau gorymdaith angladdol a'r newid o dywyllwch y storm i'r goleuni yn y symffoni gyntaf uchelgeisiol hon gan gyfansoddwr a ddeuai'n feistr ar y ffurf. Daw'r Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn ei ôl atom i arwain y gerddorfa.