Am
Beethoven Concerto i'r Ffidil
George Benjamin Concerto for Orchestra
Strauss Tod und Verklärung (Marwolaeth a Thrawsnewid)
Alexandre Bloch arweinydd
Veronika Eberle ffidil
MYNEGIANNOL | DEINAMIG | CLODFORUS
Mae Concerto Beethoven i'r Ffidil mor boblogaidd gyda chynulleidfaoedd heddiw fel ei bod efallai'n syndod na wnaeth fawr o argraff yn ei berfformiad cyntaf. Gan agor gyda thapio ar y drwm a allai fod yn jazz, dilynir y symudiad agoriadol eang a chain gan set o themâu ac amrywiadau, yn dawel a hardd, cyn i Rondo bachog a bywiog ffrwydro'n egnïol i gloi'r gwaith, mewn perfformiad gan y ddihafal Veronika Eberle.
Mae Concerto George Benjamin i'r Gerddorfa yn dal ysbryd, hiwmor ac egni di-baid y sawl y mae wedi'i gyflwyno iddo, sef y diweddar Oliver Knussen. Mae'n gampwaith amrywiol a deinamig sy'n disgleirio gydag eglurder a manylder wrth i bob aelod o'r gerddorfa ddod yn unawdydd yn ei dro. Yn olaf, mae trafferthion daearol yn arwain at hapusrwydd nefol ym Marwolaeth a Thrawsnewid Strauss. I arwain y gerddorfa, rhown groeso'n ôl i'r arweinydd arobryn o Ffrainc, Alexandre Bloch.