Am

Grace Williams Sea Sketches

Saint-Saëns Concerto i'r Ffidil Rhif 3

Elgar Enigma Variations

Jaime Martín  arweinydd

Akiko Suwanai  ffidil

CAIN | URDDASOL | DARLUNIADOL

Er mai yn ystod ei blynyddoedd yn Llundain y cyfansoddodd hi'r gwaith, hiraeth am lan môr ei thref enedigol, y Barri, sy'n ysbrydoli'r darn sy'n agor ein cyngerdd heno, Sea Sketches gan Grace Williams. Daw'r feiolinydd Akiko Suwanai yn ôl i berfformio Trydydd Concerto Saint-Saëns i'r Ffidil, cyn i ni droi at Enigma Variations eiconig Elgar, hyn oll dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín.

Gan daro cydbwysedd rhwng yr ysgafn a'r aruchel, mae Variations Elgar yn gasgliad dyfeisgar o frasluniau cerddorol o'i ffrindiau ynghyd â hunanbortread craff; ac mae enigma wedi'i guddio o fewn y sgôr gan fod pob amrywiad wedi'i dagio â llythrennau cyntaf llysenwau'r ffrindiau.