Am

YSBLENNYDD ANGERDDOL CHWEDLONOL

Otto Tausk - Arweinydd

Stephen Hough - Piano

Anna Clyne Masquerade 

Rachmaninov Piano Concerto No.3 

Egwyl

Janacek Taras Bulba 

Strauss Don Juan 

Mae Ffawd a Ffantasi, dan arweiniad Otto Tausk, yn dathlu pŵer cerddoriaeth i adrodd straeon a chreu bydoedd bywiog. Bydd y cyngerdd yn agor gyda Masquerade gan Anna Clyne, darn bywiog a lliwgar wedi'i ysbrydoli gan gerddoriaeth promenâd y ddeunawfed ganrif, ac ysblander dathlu mewn mygydau. Mae'r agoriad tymhestlog yn ildio i ysgrifennu llinynnol telynegol, sy'n cyfleu cyffro, ceinder, a dawn theatrig cerddoriaeth, wedi'i gydblethu â dawnsio a chuddwisgo. Yna, croesawn Stephen Hough i berfformio Concerto Rhif 3 i'r Piano gan Rachmaninov. Mae'r concerto yn un o'r gweithiau mwyaf heriol a chyffrous yn y repertoire. Mae'n enwog am ei feistrolaeth eithriadol, wrth iddo gyfuno gwychder technegol di-baid â thelynegiaeth ysgubol, llinellau melodig llawn mynegiant, a lliw cerddorfaol llachar - dyma uchafbwynt allbwn y cyfansoddwr.

Ar ôl yr egwyl, bydd Taras Bulba gan Janáček yn plymio i fyd llwm o ddrama a thrasiedi. Gan ddwyn ysbrydoliaeth gan stori greulon o'r 16eg ganrif am ryfel a cholled, mae Janáček yn cyfuno eiliadau o ramant a thrais yn ei arddull gerddorfaol frysiog a darniog. Daw'r rhaglen i ben gyda Don Juan gan Strauss, y gwaith a wnaeth ennyn sylw rhyngwladol iddo. Dyma gathl symffonig gerddorfaol ddisglair sy'n trawsnewid gorchestau chwedlonol yr hudwr yn gyfres o atganau cerddorol bywiog llawn lliw, rhodres ac egni. Uchafbwynt priodol i noson o ffantasi, ffawd ac adrodd straeon hudolus.