Am
Janáček The Cunning Little Vixen Suite
Martinů Concerto i'r Soddgrwth Rhif 1
Stravinsky Petrushka (fersiwn 1947 version)
Antony Hermus arweinydd
Laura van der Heijden soddgrwth
HUDOLUS | TRAWIADOL | GWERINOL
Dechreuwch ar eich taith gerddorol y mis Ionawr hwn gyda The Cunning Little Vixen, y comedi drasig eithriadol o boblogaidd gan Janáček. Gydag adrannau pantomeim symffonig byr a bachog, wedi'u trefnu'n ddyfeisgar i roi eu motiff rhythmig eu hunain i bob cymeriad, mae'r gyfres werinol hon yn llawn harmoni toreithiog a naws sy'n frith o natur a chariad.
Mae'r chwaraewr soddgrwth hynod boblogaidd Laura van der Heijden yn dychwelyd i BBC NOW gyda pherfformiad o waith athletaidd a gwerinol Martinů, ond eto'n llawn mynegiant, sef y Concerto i'r Soddgrwth, cyn i'r arweinydd Antony Hermus droi'n feistr pypedau yn Petrushka gan Stravinsky. Mae Petrushka, y digrifwas gwrthryfelgar yn syrthio mewn cariad â Balerina sy'n syrthio mewn cariad â Mŵr yn y stori werin dynghedus hon, gyda'r pyped sy'n dawnsio ac yn ffustio yn ei anobaith yn cael ei weindio'n gelfydd gan rythm ac offeryniaeth ddyfeisgar Stravinsky.