Am

Górecki Three Pieces in Old Style

Poulenc Gloria

Dvořák Symffoni Rhif 8

Michał Nesterowicz  arweinydd

Sophie Bevan  soprano

DRAMATIG | TRAWIADOL | LLAWN CYMERIA

Mae'r hen yn cwrdd â'r newydd yn Three Pieces in Old Style gan Górecki. Wedi'u hysbrydoli gan ysgrifau ar hen gerddoriaeth Gwlad Pwyl a than ddylanwad cerddoriaeth foddol wedi'i chyfuno â cherddoriaeth werin, mae'r darnau swynol hyn yn crynhoi cyfaredd soniarus cerddoriaeth Górecki a'i waith ysgrifennu ar gyfer llinynnau.

O egni ymwthiol ac angerdd rhythmig y symudiadau agoriadol i dawelwch a cheinder y Domine Deus, mae gwaith chwareus a theatrig Poulenc, Gloria, nid yn unig yn fynegiant o'i ymroddiad dwfn i'r ffydd, ond yn esiampl o'i arddull gerddorol unigryw. Mae rhythmau nerthol a harmonïau dyfeisgar ar dân yma mewn gwaith eithaf drygionus a phryfoclyd ei naws. Mae Wythfed Symffoni Dvořák yn dân gwyllt o symffoni, yn llawn bywyd ac egni, gydag alawon bachog di-rif a llawenydd di-ben-draw, ac i arwain y gerddorfa mae'n bleser mawr croesawu'r arweinydd byd-enwog o Wlad Pwyl Michał Nesterowicz i arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am y tro cyntaf.