Am
Beethoven Missa solemnis
Andrew Manze arweinydd
Carolyn Sampson soprano
Sophie Harmsen mezzo soprano
Ed Lyon tenor
Darren Jeffery bass
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC
MAWREDDOG | CLODFORUS | O'R RADD FLAENAF
Mae Missa Solemnis gan Beethoven, a saif fel cofeb i weithiau corawl cysegredig, yn osodiad o'r offeren o bwysau a graddfa aruthrol. Nid yw mawredd aruchel ac edrych gyda serenedd tua'r nefoedd, dawnsio gyda ffigurau hudolus, cyferbyniadau deinamig ffyrnig yn plethu drwy'r grymoedd mawr sydd wedi'u trefnu'n ofalus, ac ansawdd chwilio sy'n adlewyrchu ei ffydd ei hun, sef edrych y tu hwnt i'n dealltwriaeth ni at Dduw nwmenaidd, byth ymhell o'r wyneb.
Yn cael ei ystyried gan Beethoven fel ei waith gorau, mae ei Missa Solemnis yn sicr yn ddarn 'rhestr bwced' i'w brofi ac i ryfeddu ato gan bawb sy'n hoff o gerddoriaeth, a gyda rhestr nodedig o unawdwyr yn camu i fyny ochr yn ochr â Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, mae hwn yn berfformiad na ddylid ei golli.