Am

Bartók Concerto i'r Ffidil Rhif 1

Mahler Symffoni Rhif 5

Ryan Bancroft arweinydd

James Ehnes ffidil

SWYNOL | YSMALA  | SWYNGYFAREDDOL

Mae hanes hir o gyfansoddwyr yn ysgrifennu anrhegion cerddorol i'r menywod roedden nhw'n eu caru, ac mae'r Cyngerdd i Gloi'r Tymor heno yn cynnwys dau o'r goreuon.  

Mae cariad unochrog yn treiddio drwy'r Concerto i'r Ffidil gan Bartók. Mae'r concerto dau symudiad hwn, a ysgrifennwyd ar gyfer y fiolinydd, ac ysbrydoliaeth Bartók, Stefi Geer, yn arddangosfa gerddorol o'i phersonoliaeth - mae'r darn rhapsodïaidd hynod bersonol hwn yn llawn alawon wylofus a neidiadau direidus. Y feiolinydd byd-enwog, James Ehnes, yw pencampwr yr arddangosfa danllyd a meistrolgar hon, ac mae'n dychwelyd i BBC NOW yn dilyn galw mawr amdano. 

Yn wahanol i Bartók, cafodd cariad Mahler ei wireddu, ac mewn arwydd o serch at ei wraig newydd, Alma, mae ei Bumed Symffoni'n llawn ffanfferau ar y trwmped, dawns a llawenydd - heb sôn am y symudiad araf cynhyrfus, ei gân serch i'w gariad bid siŵr.