Am

CYSYLLTIAD JAZZ TÂN

Carlos Miguel Prieto - Arweinydd

Ethan Loch - Piano

Angharad Lyddon - Mezzo

Gabriella Ortiz TZAM (20')

Gershwin Rhapsody in Blue (16')

Egwyl (20')

Het Dri Chornel 

Mae'r rhaglen fywiog hon yn dwyn ynghyd gerddoriaeth sy'n cyfleu deialog, egni'r ddinas, a dawnsio yn yr haul, dan gyfarwyddyd Carlos Miguel Prieto. TZAM gan Gabriela Ortiz, sef "deialog" yn yr iaith Ayapaneco sydd dan fygythiad, fydd yn agor y noson, gyda myfyrdod pwerus ar gysylltiad dynol, cof, a rhannu gofod. Mae'r gwaith, a gyflwynwyd i'r diweddar gyfansoddwr Mario Lavista, yn gwahodd gwrandawyr i fod yn rhan o sgwrs gerddorol daer a myfyriol.

Ethan Loch fydd yr unawdydd ar gyfer darn eiconig Gershwin, Rhapsody in Blue, gwaith sydd wedi'i ysbrydoli gan rhythmau'r ddinas Americanaidd ac sy'n enwog am gael ei gyfansoddi wrth deithio ar drên. Dyma ddarn jazz meistrolgar sy'n Americanaidd heb os, ac sy'n galeidosgop cerddorol disglair.

Ar ôl yr egwyl, ceir bale'r Het Dri Chornel gan Manuel de Falla yn ei chyfanrwydd i gloi'r cyngerdd gyda lliwiau llachar, gan gyfuno rhythmau gwerin Sbaen â threfniant cerddorfaol gwych mewn sgôr theatrig hynod fywiog.