Am

Mendelssohn Concerto i'r Ffidil

Bruckner Symffoni Rhif 4 'Rhamantaidd'

Jaime Martín arweinydd

Ellinor D'Melon ffidil

TRAWIADOL | LLIWGAR | RHAPSODIG

Wedi'i gyfansoddi ar gyfer ei ffrind annwyl, Ferdinand David, mae Concerto Mendelssohn i'r Ffidil yn gain a chyfareddol. Yn gyforiog o delynegiaeth a dyfeisgarwch strwythurol, nid yw'n syndod bod y concerto hwn wedi sefydlu ei hun yn gadarn fel un o'r concerti mwyaf poblogaidd ohonynt i gyd. I berfformio, rydyn ni'n falch iawn o groesawu seren newydd ac un sydd wedi ennill sawl gwobr, sef Ellinor D'Melon. 

Fel modd o ddathlu ei ben-blwydd yn 200 oed, bydd Pedwaredd Symffoni Bruckner yn ganolog i ail hanner y cyngerdd hwn, dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín. Mae unawdau godidog i'r cyrn yn esgyn yn uchel yn erbyn disgleirdeb llinynnau, gyda gorymdeithiau angladdol yn cydblethu â choralau Almaenig ac mae egni cerddoriaeth hela a thriawdau ysgafn yn ein hatgoffa o Haydn neu Beethoven yn y symffoni liwgar hon.