Am

Vaughan Williams The Wasps (Agorawd)

Ester Mägi Bukoolika [premiere DU]

Helen Grime Trumpet Concerto (night-sky-blue)

Nielsen Symffoni Rhif 4  Yr Anniffoddadwy'

Arvo Volmer  arweinydd

Matilda Lloyd  utgorn

DARLUNIADOL | DISGLAIR | CYFAREDDOL

Trown at natur yn ein cyngerdd heno, gan agor gydag agorawd Vaughan Williams i The Wasps. Molawd yw'r agorawd i fawredd a thangnefedd cefn gwlad Lloegr, ac mae'n seiliedig ar gomedi Aristophanes o'r un enw. Mae'n agor gyda sŵn suo haid o wenyn a anfonir i achub y tad sydd mewn carchar yn naratif y gwaith.

Am ei bedwaredd symffoni, dywedodd Nielsen "Pe bai'r byd i gyd wedi'i ddinistrio ... yna byddai natur yn dal i egino bywyd newydd eto, yn dechrau gwthio ymlaen eto ... Y grymoedd hyn, sy'n 'anniffoddadwy', yw'r hyn y ceisiais eu cyfleu." Y campwaith hwn ddaw â'n cyngerdd heno i ben.

Caneuon bugeilio a chân adar yw ysbrydoliaeth Bukoolika gan Ester Mägi, myfyrdod mewnol addfwyn ar fyd natur yn ei holl ogoniant. I ddilyn hyn cawn ddarluniau Helen Grime o natur yn y nos, a gerddi nos ysblennydd a byd natur yr hwyrnos yn arbennig. I berfformio, mae'n bleser croesawu athrylith yr utgorn Matilda Lloyd i wneud ei hymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Gymreig y BBC.