Am
Stravinsky Cân yr Eos
Brahms Concerto i Ffidil a Soddgrwth
Rachmaninov Dawnsiau Symffonig
Ryan Bancroft carweinydd
Lesley Hatfield ffidil
Alice Neary soddgrwth
HUDOLUS | BYWIOG | THEATRIG
Daw'r Prif Arweinydd Ryan Bancroft i'r podiwm ar gyfer ei gyngerdd olaf yn y swydd wrth i ni ddirwyn ein Tymor 2025-26 i ben, gan ddechrau gyda chathl symffonig Stravinsky, Cân yr Eos. Yn seiliedig ar stori dylwyth teg gan Hans Christian Andersen, cawn hanes ymerawdwr yn ei balas Tsieineaidd crand a chân ogoneddus yr eos sy'n gyfeiliant i'w fywyd.
Wedyn, bydd ein sylw i gyd ar flaenwr Cerddorfa Gymreig y BBC, Lesley Hatfield, ynghyd â'r cyn-brif soddgrwth Alice Neary, ar gyfer Concerto Dwbl Brahms, cyn inni archwilio Rachmaninov ar ei fwyaf dyfeisgar. Â'i harmonïau melys newidiol a'r bywiogrwydd rhythmig sy'n nodweddiadol o'i arddull diweddarach, mae cyfansoddiad cyflawn olaf Rachmaninov, ei Ddawnsiau Symffonig, yn defnyddio motiffau sy'n deillio o gerddoriaeth Eglwys Rwsia ynghyd â dyfyniadau o'i symffoni gyntaf ei hun, gan greu cymanfa gynhyrfus rhwng hiraeth am a fu a phrysurdeb y ddinas fawr ac egni mawr yr 'America Fodern'.