Am
Ystafell 1
10:30 – 12:30
Gan ddwyn ysbrydoliaeth o hanes y teulu Vivian a’u cyfoeth diwydiannol, mae’r gweithdy hwn, lle byddwch yn adeiladu bydoedd Copropolis gyda chardbord, yn addas i’r teulu cyfan. Bydd y gweithdy Adeiladu Bydoedd Copropolis yn defnyddio cyfuniad o hanes diwydiannol, yr amgylchedd a ffantasi er mwyn creu prosiect cydweithredol ar raddfa fawr.
£3 y plentyn (ynghyd ag 1 oedolyn sy’n ei hebrwng)
£2 ar gyfer oedolyn ychwanegol
Darperir yr holl ddeunydd.
Mae’n rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Mae nifer gyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i unigolion sy’n ceisio lloches neu’r rhai sydd â Phasbort Hamdden. Gofynnwch i’n tîm cyfeillgar am fwy o fanylion.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900