Am
Bydd Abertawe'n cynnal y British Art Show am y tro cyntaf yn 2027, gan ddod ag un o arddangosfeydd celf gyfoes fwyaf blaenllaw'r DU i'r ddinas.
Cynhelir British Art Show 10: A Chorus of Strangers rhwng 12 Chwefror a 16 Mai 2027 ar draws lleoliadau allweddol yng nghanol y ddinas gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, Oriel Elysium, GS Artists, Oriel Mission, Theatr Volcano ac Amgueddfa Abertawe.
Cynhelir y British Art Show bob pum mlynedd. Dyma arddangosfa gelf gyfoes reolaidd fwyaf y DU, sy'n cynnwys dros 30 o artistiaid yn arddangos rhai o'r celfweithiau mwyaf cyffrous a gynhyrchwyd ledled y wlad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r arddangosfa sydd wedi'i churadu gan Ekow Eshun ac wedi'i datblygu gan Hayward Gallery Touring yn archwilio themâu hunaniaeth, cysylltiad a bywyd cyfoes, gan ffurfio rhan o daith ledled y DU.
Abertawe yw'r unig ddinas yng Nghymru ar y daith rhwng 2026 a 2028.
Bydd rhagor o wybodaeth yn dod yn fuan.