Am
Calan Gaeaf ar Bier y Mwmbwls - Hwyl Ddychrynllyd i'r Holl Deulu!
Byddwch yn barod am wythnos o hwyl ddychrynllyd ac atgofion llawn hyd a lledrith ar Bier y Mwmbwls. Ymunwch â ni am restr wych o weithgareddau iasol, crefftau calan gaeaf ac adloniant cyffrous i bobl o bob oedran. P'un a ydych chi'n mwynhau sioeau hyd a lledrith, disgos neu chwilio am bwmpenni - mae gennym rywbeth i bawb!
Rhestr Ddigwyddiadau Calan Gaeaf:
Sioeau Hyd a Lledrith Brawychus - 27 hydref
Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu wrth i'n perfformwyr gwych gyflwyno swynion arswydus a chastiau cyffrous!
️Crefftau Calan Gaeaf am Ddim - 28 Hydref
Dewch i fod yn greadigol gyda'n sesiynau crefftau calan gaeaf AM DDIM sy'n berffaith ar gyfer plant ifanc sy'n mwynhau creu gwaith celf.
Dawns yr Angenfilod ar Bier y Mwmbwls - 29 Hydref
Dewch i ddawnsio drwy'r nos yn ein parti 'Dawns yr Angenfilod' dychrynllyd - bydd gwisgoedd, cerddoriaeth a digonedd o hwyl!
Disgo Dihirod a Thywysogesau - 30 Hydref
Gwisgwch fel eich hoff ddihiryn neu dywysoges a dewch i ddawnsio yn ein disgo hudol!
Digwyddiad Calan Gaeaf sy'n talu teyrnged i Ms Rachel a Blippi -
31 Hydref Sioe galan gaeaf llawn hwyl gyda'ch hoff gymeriadau - gallwch ddisgwyl canu, dawnsio a digonedd o hwyl bwganllyd!
Dewch o hyd i'r pwmpenni - Gweithgaredd Dyddiol AM DDIM! Dewch i ymuno yn yr helfa bwmpenni sy'n digwydd bob dydd ar y pier. Gallwch ennill gwobrau gwefreiddiol os ydych chi'n dod o hyd i bob un.
Cadwch le nawr ar ein gwefan! Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael felly peidiwch â cholli'ch cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiadau calan gaeaf mwyaf cyffrous ar yr arfordir.
Ewch i www.mumbles-pier.co.uk i weld prisoedd, amseroedd a rhagor o fanylion.