Am

Y Calan Gaeaf yma, bydd fferm Gower Fresh yn cael ei thrawsnewid yn lle chwarae hydrefol hudol gyda gŵyl bwmpenni fwyaf Cymru, digwyddiadau adrodd straeon y gellir ymgolli ynddynt, a digwyddiadau arswydus i'r rheini sy'n ddigon dewr i fynd iddynt.

Bydd eich ymweliad yn dechrau drwy brynu tocyn Car Pass (fesul car, hyd at chwe pherson), fel y gallwch gael mynediad diwrnod llawn i'r platshyn pwmpenni a'r llwybr arswydus sy'n mynd drwy'r coed Nadolig, yn ogystal ag ymweld â'n haid o geirw enwog. Wrth i chi grwydro byddwch yn dod ar draws pwmpenni anferth, bwâu wedi'u haddurno â phwmpenni, a chefndiroedd hyfryd y gallwch dynnu lluniau yn eu herbyn. Yna, ewch i’r cae i ddewis eich pwmpenni perffaith – byddwch chi’n talu am yr hyn rydych chi'n ei ddewis ar y diwrnod. 

Gall teuluoedd â phlant 3-12 oed gymryd rhan yn y digwyddiad ‘The Witches of the Farm’ yn ystod y dydd, sef cwest awr o hyd a arweinir gan actorion i adfer y ddiod hud Calan Gaeaf anferth, gyda heriau rhyngweithiol, mapiau diodydd hud, a pharti i gloi yn y sgubor crochanau.

Ar ôl iddi dywyllu ar 29, 30 a 31 Hydref, gall dewrion sy'n 12 oed ac yn hŷn fynd i ddigwyddiad ‘The Harvest Calling’, profiad arswyd gyda'r hwyr drwy'r cae corn a fydd yn cynnwys actorion dychryn byw, sain a goleuadau sinematig, a pharthau dychryn niferus, yn ogystal â diweddglo dychrynllyd iawn.

Mae croeso i gŵn ar dennyn (ac eithrio yn ardal y ceirw), ac ar ôl i chi ddewis eich tocyn Car Pass a’ch amser cyrraedd,  gallwch ychwanegu amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol dewisol, gan gynnwys bwydo'r ceirw, er mwyn sicrhau y cewch chi antur Calan Gaeaf o safon ar fferm Gower Fresh.