Am
Life on Our Terms a Born This Way
Mae Life on Our Terms yn gipolwg ar yr anawsterau a wynebir gan berson anabl wrth gael mynediad at gymorth. Yn aml iawn mae penderfyniadau bywyd yn cael eu gwneud gan banel o ddieithriaid nad ydynt yn aml yn adnabod yr unigolyn nac yn ymwybodol o’i alluoedd, ac mae'r darn hwn yn tynnu sylw at yr angen am system decach. Mae'r tîm wedi defnyddio cân o Hamilton sef “The Room Where it Happens” ac wedi ailrecordio’r geiriau i'w gwneud yn berthnasol i'w sefyllfa.
Mae Born this Way yn berfformiad dawns modern i gân boblogaidd Lady Gaga, a dilynir hyn gan fersiwn iaith arwyddion Makaton o Bohemian Rhapsody. Mae aelodau CanDo, sy'n dathlu'r hyn sy'n ein gwneud yn unigryw, yn dod â'u sgiliau ynghyd i arddangos nad oes terfynau i'w galluoedd.
Mae CanDo Hub yn ddarpariaeth hyfforddi i oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol o Abertawe. Mae ei chwmni dawns yn cynnwys 22 o unigolion dawnus y mae gan bob un ohonynt anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r cwmni'n perfformio darnau heb gymorth gwirfoddolwyr, gan gydweithio â llawer o gwmnïau dawns proffesiynol.