Am
Syrcas ieuenctid a chymunedol o dde Cymru yw Organised Kaos. Mae'n fenter gymdeithasol arloesol lle mae'r holl arian a wneir o weithgareddau allanol yn cael ei ailfuddsoddi yn ein hysgol hyfforddiant syrcas, gan greu cyfleoedd cyfranogi fforddiadwy sy'n seiliedig ar y celfyddydau i'n cymuned. Mae'r hyn a ddechreuodd fel prosiect allgymorth ieuenctid yn 2007 wedi datblygu i fod yn syrcas gyfoes sy'n ymrwymedig i iechyd a lles drwy'r celfyddydau drwy gyflwyno creadigrwydd i ardaloedd sydd wedi'u hamddifadu o'u hasedau diwylliannol. Rydym yn ymgorffori ansawdd perfformiad cwmni cynhyrchu â gwaith ymgysylltu â'r gymuned ac amcan cymdeithasol menter gymdeithasol go iawn.
Drwy ein gweithdai mynediad agored, yn yr awyr ac ar y tir, rydym yn darparu celfyddyd heriol a chreadigol sy'n hygyrch, yn gynhwysol, ac yn meithrin optimistiaeth drwy ysbrydoli'r gymuned ehangach i gamu'r tu hwnt i gredoau hunangyfyngol.