Am

Ymunwch â'r Arglwyddes Alina, Arglwyddes Wen Castell Ystumllwynarth, a'i ffrindiau hudol am antur fwganllyd nad yw'n frawychus.

Dewch i gwrdd â'r fampir Cownt Crumble, y wrach Mabel Moonbeam, yr anghenfil Boris Bumbles a llu o ysbrydion, dreigiau a sombis cyfeillgar.  

Dilynwch y llwybr antur, mwynhewch straeon bwganllyd a dawnsiwch yn nawns yr angenfilod.  

Mae croeso i bawb! Anogir i chi wisgo i fyny.  

Dewch i gwrdd â:  

Cownt Crumble - fampir lletchwith sydd ychydig yn ecsentrig 
Boris Bumbles - anghenfil annwyl 
Mabel Moonbeam - gwrach y castell 
Gertie yr ysbryd  
Breos - cath y castell  
Y Mumblers - sombis cyfeillgar  
Nora Batty - ystlum preswyl  
Tad y Dreigiau 
Flora - garddwr gwallgof y castell  

Digwyddiad: 11am – 4pm.
Gatiau’r castell: ar agor am 11am | yn cau am 5pm (mynediad olaf am 3pm).  
Mynediad: mae taliadau arferol yn berthnasol. Cadw lle: nid oes angen cadw lle ymlaen llaw. 
Sioeau am 11.30am, 12.00pm, 12.30pm, 1.00pm, 2.00pm a 3.00pm