Am
Ymddiheuriadau – oherwydd y perygl o stormydd, rydym wedi gorfod canslo Y Castell Arswydus - Antur Arswydus Ardderchog Alina. Rydym yn ystyried aildrefnu’r digwyddiad hon. Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryng cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf. Diolch.
Ymunwch â'r Arglwyddes Alina, Arglwyddes Wen Castell Ystumllwynarth, a'i ffrindiau hudol am antur fwganllyd nad yw'n frawychus.
Dewch i gwrdd â'r fampir Cownt Crumble, y wrach Mabel Moonbeam, yr anghenfil Boris Bumbles a llu o ysbrydion, dreigiau a sombis cyfeillgar.
Dilynwch y llwybr antur, mwynhewch straeon bwganllyd a dawnsiwch yn nawns yr angenfilod.
Mae croeso i bawb! Anogir i chi wisgo i fyny.
Dewch i gwrdd â:
Cownt Crumble - fampir lletchwith sydd ychydig yn ecsentrig
Boris Bumbles - anghenfil annwyl
Mabel Moonbeam - gwrach y castell
Gertie yr ysbryd
Breos - cath y castell
Y Mumblers - sombis cyfeillgar
Nora Batty - ystlum preswyl
Tad y Dreigiau
Flora - garddwr gwallgof y castell
Digwyddiad: 11am – 4pm.
Gatiau’r castell: ar agor am 11am | yn cau am 5pm (mynediad olaf am 3pm).
Mynediad: mae taliadau arferol yn berthnasol. Cadw lle: nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Sioeau am 11.30am, 12.00pm, 12.30pm, 1.00pm, 2.00pm a 3.00pm