Am

CYNHYRCHIAD Y MWLDAN

Cydweithrediad syfrdanol rhwng dau dalent cerddorol aruthrol.

'...a sumptuous instrumental melange of virtuosic stringed magic' Nigel Williamson, Uncut Magazine

Mae Aoife Ní Bhriain, sy’n hanu o Ddulyn, yn un o ffidlwyr traddodiadol mwyaf blaenllaw Iwerddon ac yn feiolinydd clasurol o statws rhyngwladol sy’n feistrolgar ym maes cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth ei threftadaeth draddodiadol Wyddelig. Ar draws Môr Iwerddon, ar arfordir gorllewinol Cymru, mae’r delynores Catrin Finch hefyd wedi llunio gyrfa glasurol drawiadol ac wedi mentro i dir cerddorol newydd, yn fwyaf nodedig trwy ei chydweithrediadau rhyngwladol gwobrwyedig.

‘Both astonishing musicians individually, as a duo they connect on an almost transcendent level, bringing their classical knowledge and folk heritage together to create a work of breadth and beauty, inspired by Bach, bees, mathematics and wanderlust’ Ellen Cranitch, RTÉ

Mae Finch a Ní Bhriain yn creu deialog gerddorol swynol lle mae elfennau traddodiadol a chyfoes yn dod at ei gilydd mewn dathliad syfrdanol o gydweithrediad cerddorol, gan dywys gwrandawyr ar daith hudolus ar adenydd y gwenyn ar draws Môr Iwerddon, wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliannau eu dwy wlad enedigol.

‘A special connection between two ace musicians’ Mark Radcliffe, BBC Radio 2 Folk Show

 

Mae eu halbwm debut Double You wedi cyrraedd #1 yn Siartiau Clasurol iTunes a Siartiau Cerddoriaeth y Byd Ewrop, #2 yn Siartiau Cerddoriaeth Byd Transglobal, a derbyniodd enwebiadau ar gyfer yr ‘Albwm Gorau’ yn 6ed Gwobrau Gwerin Radio 1 RTÉ, ac ‘Albwm Gorau Ewrop’ yng Ngwobrau Cerddoriaeth Songlines 2024.

‘…layered with emotion, appreciation for style and tradition and the freedom of just playing’  Glenn Kimpton, Folk Radio UK