Am

Dydd Sadwrn 20 Mehefin 2026
11:00 am - 3:00 pm

Dewch i gwrdd ag artistiaid Celf yn y Nen – Anna Rubin, Kadek Armika, Yoh Yasuda a Frances Anderson – a chymryd rhan mewn gweithgaredd gwneud barcutiaid ymarferol.

Ymunwch â’r artistiaid wrth iddynt greu eu barcutiaid eu hunain a rhannu eu technegau, a bydd cyfleoedd i chi ddylunio a gwneud eich barcud eich hun. Dyma gyfle i archwilio creadigrwydd, deunyddiau a symudiadau wrth ddysgu gan artistiaid sy’n defnyddio’r awyr fel cynfas.

Am ddim, does dim angen cadw lle – mae croeso i chi alw heibio ac ymuno â ni unrhyw bryd.

Yn addas i bob oedran