Am
A ydych erioed wedi gorfeddwl eich dewisiadau bywyd? A ydynt oll rywsut yn gysylltiedig â sylw didaro gan eich athro Sbaeneg pan oeddech yn 15 oed? A yw wedi cael effaith ar bopeth o'ch bywyd carwriaethol i'ch gyrfa?
Yn dilyn sioeau a werthodd bob tocyn ledled y DU, yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a Soho Theatre, mae Celya AB ("Un o ysgrifenwyr jôcs gorau ei hoes" - Chortle) yn dychwelyd gyda sioe newydd sy'n cyflwyno ei jôcs "eithriadol, heb sôn am drawiadol o wreiddiol" (British Comedy Guide) a'i harsylwadau bachog.
Dyma sioe am eich rhyddhau eich hun rhag cywilydd, a'r hyn sy'n deillio o hynny.
Fel a welwyd ar Live At The Apollo, y podlediad Off Menu a Comedy Central Live.