Am
Strafangansa cerfio pwmpenni sombi! Ffrind Gruesome Lurk πͺ Creadigrwydd Rhyddhau'r Meirw Byw πͺ Yn galw ar bob ellyll, ysbryd a pherson sy'n dwlu ar bwmpenni! Ymunwch â ni yng ngolau'r lloer i gerfio pwmpenni iasol.
Dyma'r hyn sy'n aros amdanoch:
1- Templedi sombïaid. O wynebau pydredig i ddwylo ysgerbydol, mae ein stensiliau'n dod â hud y meirw byw i'ch pwmpenni
2- Perfeddion a gwaed. Torrwch drwy berfeddion pwmpen (gyda menig wrth gwrs) a cherfiwch nodweddion iasol eich sombi.
3- Bydd ffrind Gruesome Lurk, ein sombi preswyl wrth law i helpu!
4- π Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael!
π Cadwch eich lle cyn gynted â phosib.
Croeso i bob oed - gadewch eich ofnau wrth fynedfa'r gladdgell. Mae angen tocyn ar y rhai sydd am gerfio'n unig! Does dim angen tocyn ar aelodau eraill o'r teulu sydd yno nad ydynt am gerfio.
Cofiwch, mae'r pwmpenni gorau'n edrych yn faleisus!
πΏπ» Byddwch yn ddewr a cherfiwch! ππ₯