Am
Mae cast anhygoel o gantorion y West End a band byw gwych yn perfformio caneuon Nadolig poblogaidd fel na chlywsoch chi nhw erioed o’r blaen!
Mae’r Nadolig yn nesáu felly ymunwch â ni yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar gyfer noson hudol llawn caneuon Nadolig enwog, wedi’u perfformio’n fyw yng ngolau cannwyll.
Gyda chaneuon poblogaidd fel ‘White Christmas, ‘Let it Snow! Let it Snow! Let it Snow!’, ‘Santa Baby’, ‘O Holy Night’ a ‘Winter Wonderland’ yn cael eu perfformio yn ystod y gyngerdd lawen hon, dyma’r ffordd berffaith o ddathlu’r Nadolig gyda’r teulu cyfan!
Gwybodaeth bwysig
Amser 7:30PM
Hyd 135 munud
Pris £32.00 – £42.00