Am

Y Nadolig hwn, profwch gynhesrwydd, hiwmor ac ysbryd Iwerddon, gyda Christmas in Ireland.

Cewch eich cludo i Noswyl Nadolig hudolus mewn tafarn Wyddelig draddodiadol, lle mae ffrindiau, hen a newydd, yn ymgynnull i rannu caneuon, straeon ac atgofion am y Nadolig a fu. Wrth i eira ddisgyn y tu allan, mae dehongliadau calonogol o glasuron Gwyddelig bythol, baledi pwerus a'ch holl hoff ganeuon Nadolig yn llenwi'r aer. Gan gynhyrchwyr Seven Drunken Nights ac wedi'i pherfformio'n fyw gan gast rhagorol o gerddorion a chantorion, mae'r sioe yn cynnwys caneuon poblogaidd fel,'Driving Home For Christmas', 'Dirty Old Town' ac, wrth gwrs, 'Fairytale Of New York'.

Gallwch ddisgwyl chwerthin, myfyrio a llawenydd yr ŵyl mewn sioe hwyliog sy'n ymgorffori gwir hud Nadolig Gwyddelig, lle mae cerddoriaeth yn dod â phobl at ei gilydd, lle mae pob cân yn adrodd stori, ac, am un noson fythgofiadwy, lle nad oes neb yn ddieithryn.