Am

Mae Chuckl., clwb comedi gorau'r DU, yn dychwelyd am noson fythgofiadwy o gomedi fyw.

Mae pob sioe Chuckl. wedi'i churadu'n ofalus i ddod â'r cymysgedd perffaith o enwau cyfarwydd a'r sêr newydd mwyaf disglair o gylch comedi'r DU. Gallwch ddisgwyl llawer o chwerthin, llinellau clo clyfar a straeon bythgofiadwy o'r dechrau i'r diwedd, wrth i ni ddangos rhai o berfformwyr mwyaf doniol y wlad. Gallwch ddisgwyl gweld digrifwyr rydych yn eu hadnabod, o rai poblogaidd ar y teledu ar raglenni fel Live at the Apollo, Mock the Week, Would I Lie to You?, 8 Out of 10 Cats a Taskmaster ynghyd â digrifwyr gorau'r cylch comedi sydd wedi cyrraedd eu brig. Cyhoeddir y rhestr lawn yn fuan, ond does dim angen i chi aros i archebu tocynnau. Mae sioeau Chuckl. yn enwog am werthu pob tocyn yn gyflym pan fydd enwau'n cael eu cyhoeddi, felly archebwch eich rhai chi'n gynnar a byddwch yn barod am gomedi o'r radd flaenaf yng nghanol Abertawe. Fel y dywed y digrifwr arobryn Tony Law, "Rwy'n dwlu ar Chuckl... mae'r amgylchedd mor gyfeillgar ac mae'r cynulleidfaoedd yn wych." Peidiwch â cholli hwyl, egni a llawenydd comedi fyw ar ei gorau. Archebwch docyn nawr ac ymunwch â Chuckl. am nos Sadwrn sy'n sicr o'ch gadael yn gwenu ymhell ar ôl iddi orffen.