Am

Lle mae'r byd theatr gerdd yn cwrdd â'r syrcas... Mae Cirque yn dychwelyd gyda chynhyrchiad newydd cyffrous ar gyfer 2027.

Camwch i fyd lle mae ffefrynnau eiconig y byd theatr gerdd yn cwrdd â medr a chelfyddyd perfformwyr syrcas anhygoel mewn dathliad bywiog o gerddoriaeth, symudiad ac adloniant byw.

Bydd y cynhyrchiad hwn sy'n addas i deuluoedd yn cynnwys acrobateg mentrus, perfformiadau cydbwyso cynhyrfus, canu byw pwerus, ac eiliadau theatraidd trawiadol, felly cewch y gorau o'r ddau fyd mewn un sioe fythgofiadwy. 

Gyda chantorion syfrdanol, artistiaid syrcas rhyngwladol o'r radd flaenaf, a sêr Britain's Got Talent Max Fox a Christian Lee yn dychwelyd i'r llwyfan, ynghyd â thrac sain o glasuron theatr gerdd poblogaidd, mae Cirque: The Greatest Show yn brofiad adloniant byw ysblennydd i gynulleidfaoedd o bob oedran yn 2027.