Am

Claire Martin a Laurence Cottle: Bass to Face

Nos Wener 4 Medi, 5.30pm
Ystafell y Cefnfor, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bydd dau o gerddorion jazz enwocaf Prydain, Claire Martin OBE a Laurence Cottle, yn dod ynghyd yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe i gyflwyno eu prosiect newydd cyffrous, Bass to Face.  Mae'r ddeuawd unigryw hon yn perfformio eu caneuon gwreiddiol a ysgrifennwyd gyda'i gilydd dros y blynyddoedd, yn ogystal â pherfformio clasuron gan berfformwyr jazz chwedlonol fel Monk, Ellington, Strayhorn a Porter, ac alawon The Carpenters a Randy Crawford.  Mae Claire Martin, cantores arobryn ac un o gantorion jazz mwyaf poblogaidd y DU, yn dod â chynhesrwydd ac enaid i bob perfformiad. Bydd hi'n perfformio yng nghwmni'r chwaraewr bas dwbl byd-enwog, Laurence Cottle, sydd wedi'i restru ymhlith y goreuon yn y byd.  Dewch i brofi llais mynegiannol Claire a seiniau bas alawol Laurence – bydd cyfle hefyd i glywed Laurence yn chwarae'r trombôn. Mae Claire a Laurence wedi bod yn ffrindiau agos ac wedi perfformio gyda'i gilydd ers dros dri degawd, gan berfformio mewn lleoliadau sy'n amrywio o grwpiau jazz bach i gerddorfeydd ar lwyfannau ledled y byd. Mae'r prosiect Bass to Face yn un hir-ddisgwyliedig sy'n cyfuno eu doniau cerddorol i greu deuawd greadigol sy'n llawn egni a rhyddid.


Gallwch ddisgwyl cerddoriaeth o'r radd flaenaf ac egni chwareus gan y ddeuawd jazz unigryw hon.
Canmoliaeth i Claire Martin a Laurence Cottle:
"Rhagorol"  – Clive Davis, The Times
"Claire Martin yw brenhines byd jazz Prydain." – Andrew Cartmel, UK Jazz News

Uchafbwynt y mae'n rhaid i chi ei weld yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni. Archebwch eich tocynnau nawr

 

 

Mae'r perfformiad hwn yn rhan o Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2026. Gallwch weld y rhaglen lawn yn https://www.croesobaeabertawe.com/gwyl-jazz-ryngwladol-abertawe/

 

Band Arddwrn Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe - Archebwch ar gyfer pob un o'r deg sioe gyda thocyn am bris untro o £175 gyda'n gostyngiad aml-docyn (arbediad o £48 o'i gymharu â thocynnau unigol). Tocynnau'n brin. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i archebu yma!